Net-Cyrmu www.net-cymru.co.uk
Eich Gwefan Chi / YOUR Site on the Internet


Cymru Gymraeg


Clwbiau ac Adloniant


Dawnswyr Cwm Rhondda

Ffurfiwyd Dawnswyr Cwm Rhondda ym Ionawr 1991 gyda'r bwriad o adfywio a hyrwyddo dawnswio gwerin a'r arferiadau sy'n gysylltiedig â hi o fewn y Cwm.

Bu'n llwyddiannus dros ben hyd yn hyn. Erbyn heddiw, rydyn ni'n falch bod genym dros 25 o aelodau o bob oed a drigai yn bennaf o fewn y Cwm ei hun, a cherddorion dawnus sy'n chwarae trefniadau eu hunain yn ogystal ag Alawon Gwerin Traddodiadol.

Aelodau o'r tîm sy'n gyfrifol am y gwisgoedd lliwgar a thraddodiadol Dawnswyr Cwm Rhondda, wedi iddynt olrhain hanes y patrymau yn yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan. Er mwyn creu naws gwerinol, gwelwn y dawnswyr yn eu gwisgoedd lliwgar ac ysgafn i bortreadu dawnsfeydd ffair yr Haf, ac yn wrthgyferbyniad llwyur, brethyn traddodiadol Cymreig a hetiau perthasol i berfformio dawnsfeydd y Gaeaf i greu awyrgylch yr oes a fu.

Rydym yn falch o fod yn dîm proffesiyonol, gyda chymysgedd o ddawnswyr profiadol aeddfed, ynghyd ag aelodau ifanc brwd yn gorlifo a chymeriad, i'ch diddanu drwy gydol y noson. Ar ôl arddangosfa o amrywiaeth eang o ddawnsfeydd gan aelodau'r tîm, fe gewch gyfle i ymuno yn yr hwyl a blasu diwylliant Cymru drwy ganu a dawnsio dan arweiniad medrus aelodau o'n grwp.

Mae Dawnswyr Cwm Rhondda wedi cynyddu yn gyflym dros gyfnod byr ac maent yn perfformio a chynnal cyngherddau yn rheolaidd drwy Gymru ben baladr a thu hwnt i Glawdd Offa. Er nad ydy'r tîm wedi bod mewn bodolaeth am amser hir maent wedi cyflawni llawer. Ers 1992 mae'r tîm wedi cynrychioli Cymru yn yr Wyl Ban Geltaid yn Nhralee yn Ne Iwerddon ar ddau achlysur a chawsom y fraint o diddanu dros fil o Gymru ar wasgar yn Theatr "Yr Anvil" yn Basingstoke.

Ymddengys Dawnswyr Cwm Rhondda mewn Fideo Dawnsio Gwerin a gomisiynwyd gan Gymdeithas Ddawns Werin Cymru a lansiwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abergele yn Awst 1995. Yn ddiweddar cawsom yr anrhydedd o ymddangos ar S4C yn y gyfres gerddorol "ria". Mae'r cymeriadau o fewn y tîm mor fywiog fel y cawson eu cyfweld yn fyw ar radio Kerry yn Iwerddon a radio Cymru i drafod adfywiad Dawnsio Gwerin yng Nghwm Rhondda a'i effaith ar ddiwylliant Gymru.

Perfformir Dawnswyr Cwm Rhondda yn rheolaid o fewn y Cwm gan genfogi Elusenau megis Cymdeitas Rhieni ac Athrawon a nifer helaeth o achlysuron o fewn y Cwm a ledled Gymru.

Am fanylion pellach cysylltwch â Elaine Bowen 01443 433 020.


This page was last updated on 10 June 2000 __________ Back to:net-cymru Home Page